Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2022
Amser:
10. -
17.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12893
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Joel James AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Peredur Owen Griffiths AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Kelly Andrews, GMB Dr Phil Banfield, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Leighton Jenkins, CBI Cymru Paul Slevin, Chambers Wales Mary Williams, Unite Darren Williams, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan Bethan Thomas, Unsain Richard Selby, Sefydliad y Cyfarwyddwyr Tom Hoyles, GMB Yasmin Khan, Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Nisreen Mansour, Wales TUC Johanna Robinson, Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Sarah Murphy ar gyfer Eitemau 2, 3, 4 a 5.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Sioned Williams a
Joel James yn bresennol yn lle Altaf Hussain ar gyfer pob eitem ar
yr agenda yn ymwneud â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol
a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan y canlynol:
Jenny Rathbone – Aelod o Unite a Sefydliad Bevan
Ken Skates – Aelod o Unite
Sarah Murphy – Aelod o Unite, Unsain, GMB a Sefydliad Bevan
Jane Dodds – Aelod o Unite
Joel James – Aelod o Unite
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papur.
2.1 Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am argymhelliad 7 yr adroddiad Dyled a’r Pandemig.
3 Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.
Clywodd yr Aelodau gan Johanna Robinson ac Yasmin Khan yn y gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y Cynghorydd Cenedlaethol ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod, Trais yn Seiliedig ar Rywedd, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) ac (ix) i wahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 10 ar yr agenda.
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
5 Trafod y dystiolaeth a’r adroddiad drafft
Ystyriodd yr aelodau'r dystiolaeth a glywsant gan y ddau ymgeisydd a chytunwyd ar adroddiad drafft ar y gwrandawiad, yn amodol ar fân newidiadau. Nododd yr Aelodau y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn hir.
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 3 – cyflogwyr y sector preifat
Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Richard Selby, Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru
Leighton Jenkins, CBI Cymru
Ben Cottam, FSB Cymru
Paul Slevin, Siambrau Cymru
7 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 4 – undebau llafur (1)
Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Nisreen Mansour, Cyngres Undebau Llafur Cymru
Bethan Thomas, Unsain
Darren Williams, Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol
8 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 5 – undebau llafur (2)
Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
Yr Athro Phil Banfield, Cymdeithas Feddygol Prydain
Mary Williams, Unite
Tom Hoyles, GMB
9 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), sesiwn dystiolaeth 6 – Sefydliad Bevan
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
10 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): ystyried y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.